Beth yw Teithiau Trefol?
Amcanion Teithiau Trefol
Manteision Defnyddio Teithiau Trefol
Sail Tystiolaeth ar gyfer Teithiau Trefol

 

Yr argymhelliad cyfredol ar gyfer gweithgaredd i oedolion yw y gellir cael manteision iechyd sylweddol drwy gynnwys swm cymedrol o weithgaredd corfforol (e.e. 30 munud o gerdded cyflym, 15 munud o redeg) ar y rhan fwyaf, os nad pob un, o ddyddiau’r wythnos.

Yn frawychus, dim ond tua 37% o ddynion a 25% o ferched sy’n cyflawni’r lefelau a argymhellir ar hyn o bryd. Mae gostyngiad cyson hefyd mewn lefelau gweithgaredd wrth fynd yn h_n a gwahaniaethau amlwg rhwng y ddeuryw, a rhai grwpiau cymdeithasol ac ethnig.

Mae graddfa’r diffyg symud ar draws y boblogaeth, ynghyd â’i effaith fel ffactor risg sylweddol ar gyfer amrywiaeth o glefydau yn golygu ei fod bellach yn cael ei gydnabod fel baich mawr o safbwynt iechyd ac o safbwynt cymdeithasol.

Dangosodd astudiaethau epidemiolegol mawr y gellid cael y fantais fwyaf i iechyd wrth gael y bobl sydd fwyaf eisteddog i fod yn gymedrol egnïol. Mae’r manteision o ran iechyd yn ymestyn dros ystod eang, gan gynnwys ffactorau ffisiolegol a seicolegol. Mae hyn yn golygu bod gweithgaredd corfforol wedi ei ddisgrifio fel y ‘fargen orau i feddyginiaeth iechyd cyhoeddus’.

Fodd bynnag, dim ond ychydig y bydd ymagweddau unigol yn ei wneud i ddylanwadu ar yr amodau cymdeithasol a all fod wedi cyfrannu at y cyflwr. Mae tystiolaeth yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar darddiadau cymdeithasol ac amgylcheddol clefydau fel clefyd y galon a chanserau.

Amcangyfrifwyd mai’r gost o beidio ag ymateb i’r cynnydd di-ildio hwn mewn disymudrwydd a’i ganlyniadau ehangach yw £8.2 biliwn y flwyddyn yn Lloegr (* Adroddiad CMO, 2004). Ynghyd â brasamcanion am gynnydd cyflym diabetes Math II, nid yw costau dynol ac economaidd yr epidemig eisteddog hwn ond yn dechrau cael eu gwerthfawrogi ac maent yn pwysleisio’r angen am weithredu ar frys i wrthdroi’r patrymau.

* Adran Iechyd, 2004. At least five a week. Evidence on the impact of physical activity and its relationship to health. Adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Cyhoeddiadau’r Adran Iechyd