Sut y gallwn wneud Cymru yn lle hyd yn oed gwell - ac iachach - i fyw?
Pam fod angen i ni wneud hyn?
Gwybodaeth Gyswllt

 

Mae iechyd gwael yn falltod ar fywydau pobl a theuluoedd. Mae’n wael i’r economi ac yn ein gwneud ni’n dlotach fel cenedl. Mae hefyd yn rhoi pwysau ar ein gwasanaethau iechyd. Er hynny, gellid atal sawl math o afiechyd.

Mae iechyd pobl yn gwella. Mae llai o bobl yn ysmygu, ac mae mwy o bobl yn deall yr angen i fwyta bwydydd iach ac i ymarfer corff. Ond mae angen gwneud mwy. Mae iechyd yn waeth yng Nghymru nag ydyw mewn nifer o rannau eraill Prydain.

Gellid atal rhai o brif achosion afiechyd. Er enghraifft, caiff ein ffordd o fyw effaith ar ganser, clefyd y galon a diabetes. Mae atal afiechydon nid yn unig yn arbed pobl rhag poen a dioddefaint, ond hefyd yn helpu gwasanaethau iechyd a gofal i weithio’n fwy effeithiol.

Mae mwy ar gael yn www.heriechyd.cymru.gov.uk