Camu ymlaen tuag at Gymru iach
Strategaeth Cerdded a Seiclo – Rhagair
Crynodeb Gweithredol
Gweledigaeth ar gyfer Cerdded a Seiclo
Gweld y Darlun Mwy
Cyflwyno’r Rhaglen ar Lawr Gwlad
Gwneud Newid
Gosod y Nodau
Gwybodaeth Bellach

 

Byddwn yn gwneud yn glir beth yw’r cysylltiad rhwng Cerdded a Seiclo a:

• Iechyd – Mae cerdded a seiclo yn fwy na dull o deithio, maent hefyd yn ddulliau o atal gwaeledd;

• Polisïau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – gan gynnwys teithio i’r ysgol a hamdden a Llwybrau Diogel i’r Ysgol;

• Cymunedau Cynaliadwy – galluogi cyllid i gael ei gyfeirio at gynlluniau cerdded a seiclo yn yr ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf;

• Diogelwch ar y Ffyrdd – cysylltu gyda’r mentrau allweddol yn y Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd;

• Yr Amgylchedd – gwella ansawdd yr aer yn lleol a gostwng allyriant nwyon tyˆ gwydr a llygredd;

• Cynllunio a Datblygu – rhoddi ystyriaeth i bolisïau cynllunio defnydd o dir a gwneud y
ddarpariaeth orau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr;

• Twristiaeth – cydnabod ac atgyfnerthu’r cyfraniad y mae cerdded a seiclo yn ei wneud at dwristiaeth a’r economi yng Nghymru;

• Hawliau Tramwy – gweithio gydag awdurdodau lleol I wella Hawliau Tramwy;

• Chwaraeon – cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden sy’n seiliedig ar gerdded a seiclo.

Y Pwyntiau Gweithredu yw:
• Ehangu sgôp y Cynlluniau Atgyfeirio Ymarfer Corff I argymell cerdded a seiclo;

• Hybu cerdded a seiclo yn well trwy brosiectau a gefnogir gan y Gronfa Anghydraddoldeb mewn Iechyd;

• Darparu cynlluniau cerdded a seiclo trwy Cymunedau’n Gyntaf;

• Annog seiclwyr i ddefnyddio goleuadau a gwisgo dillad sy’n adlewyrchu golau ar ôl iddi hi dywyllu;

• Addysgu seiclwyr ynglyˆn â manteision a chyfyngiadau helmedau, gyda phwyslais arbennig ar blant a phobl ifanc;

• Annog seiclwyr i osod a defnyddio clychau ar eu beiciau;;

• Mabwysiadu safonau parcio beiciau a’u cynnwys o fewn Cynlluniau Datblygu Unedol – ar gyfer adeiladau masnachol dylai’r safonau hynny gynnwys cyfleusterau parcio beic ar gyfer staff ac ymwelwyr;

• Sicrhau bod llunio a gweithredu cynlluniau teithio yn rhan hanfodol o bob datblygiad mawr, fel rhan o’r cytundeb ar gyfer adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gyda’r cynlluniau teithio yn cynnwys darpariaeth ar gyfer parcio beiciau bob tro, a chawodydd a chyfleusterau newid mewn adeiladau mwy fel y bo’n briodol;

• Sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unedol, y Cynlluniau Datblygu Lleol a’r Cynlluniau Cymunedol arfaethedig yn cynnwys polisïau i warchod a gwella llecynnau gwyrdd, gan ymgorffori llwybrau cerdded, seiclo a marchogaeth a darpariaeth ar gyfer y llai abl;

• Sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unedol, y Cynlluniau Datblygu Lleol arfaethedig a’r Cynlluniau Cymunedol yn cynnwys polisïau i warchod hen lwybrau’r rheilffyrdd mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd dinesig fel llwybrau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a’r llai abl ac ar gyfer marchogaeth lle bo hynny’n briodol;

• Cynorthwyo Bwrdd Croeso Cymru i hybu twristiaeth cerdded a seiclo;

• Cael mwy i gymryd rhan mewn chwaraeon seiclo heb effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd;

• Cael mwy i gymryd rhan mewn chwaraeon seiliedig ar gerdded;