
A ninnau yn awr wedi disgrifio’r Weledigaeth, y Darlun Ehangach a’r Gweithredu fydd yn digwydd ‘ar y llawr’ yr ydym yn edrych ar ffyrdd o newid meddwl a chalonnau pobl:
• Newid Agweddau – datblygu ymgyrch genedlaethol proffil uchel, gyda chefnogaeth y Grwˆp Ymgynghorol Cerdded a Seiclo arfaethedig;
• Marchnata i’r Unigolyn – technegau marchnata cydnabyddedig a ddatblygwyd yn Ewrop ac Awstralia; bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal peilot yng Nghymru;
• Dysgu oddi wrth Eraill – cefnogaeth oddi wrth Gymdeithas Genedlaethol Travelwise yn y Deyrnas Unedig ac oddi wrth fentrau yn yr Undeb Ewropeaidd;
• Yn y Dref heb Fy Nghar – sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r awdurdodau lleol;
• Yr Wythnos Feiciau – yn sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan lawn yn yr ymgyrch hon sy’n cael ei threfnu dros y cyfan o’r Deyrnas Unedig;
• Ymarferwyr Hyfforddiant – argymhellion i gynnal seminar blynyddol;
• Cynlluniau Teithio – darparu deunyddiau a chynhyrchu cynlluniau o ansawdd uchel; datblygu "Llwybrau Diogel i’r Gwaith".
Y Pwyntiau Gweithredu yw:
• Datblygu ymgyrch genedlaethol proffil uchel o gyhoeddusrwydd i hybu
cerdded a seiclo wedi ei seilio ar y manteision i iechyd ac i’r amgylchedd;
• Gweithredu peilot yng Nghymru o brosiectau cynlluniau teithio personol;
• Cymryd yr arweiniad i hybu ‘Diwrnod Yn y Dref Heb Fy Nghar’ yng Nghymru;
• Chwilio am bartneriaid i ddarparu cyfres o seminarau blynyddol i rannu gwybodaeth gyda darparwyr trafnidiaeth ynglyˆn ag anghenion cerddwyr a seiclwyr ac I ddatblygu syniadau ar gyfer dylunio a gweithredu, i hybu manteision cerdded a seiclo;
• Datblygu defnyddiau ar gyfer Cymru gyfan i helpu I ddatblygu Cynlluniau Teithio i Ysgolion a Chyflogwyr;
• Ystyried sefydlu Grwˆp Ymgynghorol Cerdded a Seiclo;
• Datblygu cynllun Llwybrau Diogel i’r Gwaith fel rhan o gynlluniau teithiau busnes.