
Mae Cerdded a Seiclo yn gwneud lles i ni.
Mae llawer ohonom yn cerdded.
Yng Nghymru mae 26% o bob taith sydd â phwrpas penodol iddi yn cael ei cherdded. Mae 11% o bobl yn cerdded i’w gwaith ac amcangyfrifir bod 45% o blant 5 i 16 oed yn cerdded i’r ysgol.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae nifer y teithiau cerdded a wneir gan bob person wedi gostwng 20%.
Mae rhai ohonom yn dymuno seiclo.
Mae tua 1% o bobl yn teithio i’r gwaith ar feic.
Ym Mhrydain, mae 1% o dripiau i’r ysgol yn cael eu gwneud ar feic.
Erbyn hyn mae yna feic mewn tua 38% o aelwydydd yng Nghymru.
Serch hynny bu gostyngiad o 37% yn nifer y tripiau ar feic ym Mhrydain ers canol y 1980gau.
Mae’n well gan y rhan fwyaf ohonom ddefnyddio ein car.
Yng Nghymru, mae oddeutu 8% o’r siwrneiau a wneir mewn car yn llai nag 1 filltir, mae 26% yn llai na 2 filltir, a 58% yn llai na 5 milltir.