Camu ymlaen tuag at Gymru iach
Strategaeth Cerdded a Seiclo – Rhagair
Crynodeb Gweithredol
Gweledigaeth ar gyfer Cerdded a Seiclo
Gweld y Darlun Mwy
Cyflwyno’r Rhaglen ar Lawr Gwlad
Gwneud Newid
Gosod y Nodau
Gwybodaeth Bellach

 

Mae cerdded a seiclo yn ffyrdd iach a chyfleus o deithio yn lleol, yn hwylus I bawb ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gerddwyr, o leiaf am ran o’n siwrneiau ac am ran o’n diwrnod. Mae llawer ohonom yn seiclwyr ond er gwaethaf y manteision cynhenid ac amlwg o gerdded a seiclo mae’n well gan y rhan fwyaf ohonom ddefnyddio’r car. Nod y strategaeth hon yw gwneud y defnydd mwyaf o’r cyfleoedd i gerdded a seiclo ac i dynnu sylw at yr anfanteision o ddefnyddio ceir preifat, yn arbennig ar gyfer siwrneiau byr. Mae 8% o siwrneiau car yn llai nag 1 filltir, mae 26% o’r siwrneiau o dan 2 filltir ac mae 58% o dan 5 milltir. Ar gyfer y pellteroedd hyn gall cerdded a seiclo fod yn ffordd arall, ymarferol adeniadol, o deithio. Gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod rôl llawer mwy i gerdded a seiclo yn ein patrwm teithio yng Nghymru.

Mae’r ffordd yr ydym yn dewis teithio yn bwysig i’n hiechyd, i’n hamgylchedd ac i’r economi. Gall cerdded a seiclo wneud lles mawr iawn i iechyd unigolion trwy gynyddu faint o weithgaredd corfforol yr ydym yn ei wneud. Mae cerdded i’r arosfan bws yn ein helpu ni i ddefnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Gyda’i gilydd bydd cerdded a seiclo yn helpu i wella ansawdd yr aer yn lleol a lleihau’r llygredd o geir sy’n effeithio ar y byd i gyd. Maent yn rhan hanfodol o dwristiaeth yn annog ymwelwyr i ddod I Gymru. O ran y gymdeithas Gymreig, mae gwneud cyfleusterau cerdded a seiclo yn agored i bawb yn elfen bwysig o greu cyfleoedd cyfartal, er enghraifft er mwyn bodloni anghenion pobl anabl a chymunedau difreintiedig.

Bydd cyflwyno’r strategaeth yn golygu y bydd raid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid mewn awdurdodau lleol, rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r sector preifat weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth I weithredu’r newid. Mae ymrwymiad mawr eisoes yn bodoli I newid ein holl batrymau teithio a’n hagwedd at deithio.

Yr her fawr ar gyfer pob un ohonom yw cwestiynu ein dull o fyw sy’n ddibynnol ar geir a gofyn ‘a oes angen i mi ddefnyddio’r car ar gyfer y siwrnai hon’. Mae’r strategaeth hon yn bodoli er mwyn eich helpu i ddweud ‘Nac oes’ ac i gerdded a seiclo yn lle hynny.

gan Andrew Davies AC
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth