Camu ymlaen tuag at Gymru iach
Strategaeth Cerdded a Seiclo – Rhagair
Crynodeb Gweithredol
Gweledigaeth ar gyfer Cerdded a Seiclo
Gweld y Darlun Mwy
Cyflwyno’r Rhaglen ar Lawr Gwlad
Gwneud Newid
Gosod y Nodau
Gwybodaeth Bellach

 

• Cynyddu lefelau cerdded a seiclo trwy eu hyrwyddo a thrwy ddarparu cyfleusterau.

• Adlewyrchu’r flaenoriaeth uwch sydd i gerdded a seiclo mewn polisïau trawsbynciol, canllawiau a chyllido.

• Gwneud cerdded a seiclo yn fwy diogel ac yn fwy pleserus I bob grwˆp oedran.

• Newid agweddau’r cyhoedd tuag at gerdded a seiclo yn ein cymdeithas.

Trwy godi lefelau cerdded a seiclo yng Nghymru byddwn yn gwella iechyd y bobl ac iechyd yr amgylchedd lle rydym yn byw.

Bydd hynny’n golygu ymdrech arbennig gan bawb gan gynnwys:

• Llywodraeth y Cynulliad;

• Awdurdodau Lleol;

• Y sector gwirfoddol, er enghraifft Sustrans, CTC Cymru, Strydoedd Byw, a Chymdeithas y Cerddwyr.

Ar ben hynny mae nifer o fentrau yn cael eu hybu gan yr Adran Drafnidiaeth, ar lefel y Deyrnas Unedig.

Mae gan y Strategaeth hon nifer o amcanion allweddol. Y weledigaeth sydd gan y strategaeth hon yw atal y gostyngiad mewn cerdded a beicio a chynyddu eu rôl yn ein dull o deithio yng Nghymru.

Y mae’n Fframwaith Trafnidiaeth ar gyfer Cymru wedi amlinellu tri amcan strategol:
• Datblygiad cynaliadwy;

• Delio gydag anfantais gymdeithasol;

• Hyrwyddo cyfle cyfartal.

Yng nghyd-destun Cerdded a Seiclo mae hynny yn golygu:

• Gweld y Darlun Ehangach – sicrhau bod holl bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi’r Strategaeth Cerdded a Seiclo;

• Darparu gwasanaeth ‘ar Iawr gwlad’ – trwy ymgorffori’r arferion gorau o rannu gofod a sicrhau bod modd i bobl sydd ag anableddau gael mynediad i’r llwybrau;

• Gwneud i Newid Ddigwydd – hybu cerdded a seiclo ar sail y budd i iechyd, i’r amgylchedd ac i’r economi;

• Gosod y nodau – cytuno ar dargedau a meincnodau ar gyfer cerdded a seiclo.