Camu Ymlaen
Manteision Iechyd Gweithgaredd Corfforol Rheolaidd
Manteision Cymdeithasol Cerdded

 

Cerdded yw’r ymarfer mwyaf cyffredin a wneir yn y DG, gydag oddeutu 8 allan o bob 10 o siwrnai o dan filltir yn cael eu gwneud ar droed. Cerdded bywiog yw’r ffordd berffaith i’ch helpu i gyflawni'r argymhellion cyfredol ar gyfer gweithgaredd.

O ran iechyd fe’i disgrifiwyd fel yr ymarfer corff perffaith ac mae hynny mae’n debyg yn wir mewn termau cymdeithasol ehangach yn ogystal. Mae ei effaith posibl ar iechyd wedi gweld sefydlu Menter Cerdded Llwybr Iechyd Cenedlaethol.

Cafodd y cynllun, a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig y Galon a’r Asiantaeth Cefn Gwlad, ei ariannu gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd a cheisiodd sefydlu cyfres o gynlluniau cerdded a gwirfoddolwyr i arwain teithiau cerdded i annog mwy o gerdded er lles iechyd.

Mae llawer o asiantaethau eraill, megis Cymdeithas y Pedestriaid a Chymdeithas y Cerddwyr hefyd yn gweithio i hyrwyddo mwy o gyfleoedd i gerdded am amrywiaeth o resymau yn ymwneud ag iechyd, rhesymau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Fodd bynnag, anelwyd llawer o’r gwaith hyrwyddo dechreuol at gerdded mewn parciau, mannau gwyrdd, neu mewn ardaloedd gwledig ac er bod hyn yn creu lleoliadau dymunol ac yn hyrwyddo twristiaeth nid yw’n ymdrin yn llawn ag anghenion y trigolion trefol i gyflawni’r argymhellion cyfredol yngl_n â gweithgaredd oedolion er lles iechyd.

Yn bwysicach, mae’r rhai hynny sydd â’r mwyaf o angen o ran iechyd yn rhai sy’n tueddu i fynd llai at weithgareddau gwledig a chydnabyddir bod ymdrin ag anghyfartaleddau iechyd bellach yn agenda y rhoddir blaenoriaeth iddi.
Gyda'i ffocws lleol mae Teithiau Trefol yn cynnig cyfle i gefnogi gwaith yn ymwneud ag anghyfartaleddau iechyd; ffocws canolog a blaenoriaeth i waith partneriaethau ar draws llawer o awdurdodau iechyd a lleol.