
Mae Uned Parciau a Chefn Gwlad Cyngor Sir Caerfyrddin yn awyddus i ddatblygu cyfres o deithiau trefol i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y sir. Caerfyrddin fydd yr ardal gyntaf i gael taflen, ac yna cyhoeddir rhai ar gyfer Rhydaman, Penbre a Porth Tywyn a Llanelli. Gobeithiwn y bydd y teithiau yn boblogaidd gyda staff y cyngor sir ynghyd â llawer o bobl eraill sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.
Hyd yn oed mewn ardal wledig fel Sir Gaerfyrddin nid yw mwyafrif y bobl bellach yn byw nac yn gweithio yng nghefn gwlad, yn hytrach maent yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser mewn amgylchedd trefol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cydnabod manteision cerdded yng nghefn gwlad, er mwyn cadw’n heini, ymlacio neu ddianc oddi wrth bwysau ein bywydau bob dydd. Ychydig ohonom, fodd bynnag, sy’n ymwybodol o ba mor fanteisiol y gall ychydig o funudau o gerdded bywiog fod, ble bynnag yr ydym yn byw ac yn gweithio.
Cerdded trefol yw’r ffordd hawsaf i’r rhan fwyaf ohonom helpu i gynnal neu wella ein lles corfforol a meddyliol. Nid oes angen unrhyw ddillad nac offer arbennig a gall mynd am dro fel arfer fod yn rhan o’n bywydau heb lawer o ffwdan. Gall cerdded gyda ffrindiau hyd yn oed wella eich bywyd cymdeithasol. Dyma ychydig o syniadau i’ch cael chi i gerdded.
• Os oes raid i chi yrru eich plant i’r ysgol, beth am gerdded yr hanner milltir olaf ac osgoi’r ardaloedd parcio gorlawn o amgylch yr ysgol.
• Ewch ar ac oddi ar y bws ymhellach o’ch gwaith a cherddwch yr ychydig stopiau diwethaf – gallwch newid hyd y daith yn ôl yr amser sydd gennych neu pa mor heini yr ydych yn teimlo!
• Pan fo hi yn amser cinio, beth am seibiant o’r gwaith drwy fynd am dro cyflym. Fe gewch fanteision corfforol a byddwch yn teimlo yn fwy effro.
• Parciwch y car ymhellach o’ch gweithle a cherddwch. Os ydych yn gweithio yng nghanol tref gall hyn fod yn rhatach ac yn haws.
I lawer ohonom nid yw cefn gwlad yn hawdd o gwbl i'w gyrraedd ac mae’n bosib nad oes gennym ddillad nac esgidiau addas, felly mae cerdded trefol yn gwneud llawer o synnwyr. Os ydych yn gwella o salwch neu'n ansicr faint o ymarfer sydd arnoch ei angen, gofynnwch i’ch meddyg. Ond cyngor sylfaenol da yw dechrau’n araf, adeiladu ar eich llwyddiant – a pheidiwch â digalonni wrth geisio gwneud gormod yn rhy fuan
Mwynhewch eich teithiau a phrofwch y manteision!
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Teithiau Trefol yn Sir Gaerfyrddin cysylltwch
â:
Martin Murray
Swyddog Hamdden Cefn Gwlad
Cyngor Sir Caerfyrddin
01554 747533