
Pam cymryd rhan?
Mae’r cynllun Teithiau Trefol yn nodwedd o Strategaeth Dringo’n
Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynyddu cyfranogiad mewn gweithgaredd
corfforol sy’n gwella iechyd, thema a ddynodwyd fel blaenoriaeth yn
Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd.
Cydnabyddir bod cerdded yn ffordd effeithiol o wella iechyd a lles pobl Cymru, ac ystyrir Teithiau Trefol fel cyfrwng defnyddiol arall i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn rheolaidd.
Mae’r cynllun Cerdded Llwybr Iechyd wedi ei sefydlu yng Ngwynedd ers 2002 ac mae Teithiau Trefol yn cynnig dimensiwn newydd i weithio yn gyfochrog â’r cynllun hwn.
Bydd y Teithiau Trefol yng Ngwynedd yn targedu grwpiau poblogaeth eraill e.e. y rhai hynny yn y gweithle a allai ddefnyddio’r llwybrau hyn ar gyfer cerdded i'r gwaith ac adref ac ar gyfer cerdded bywiog yn ystod egwyl ginio.
Pam y cafodd yr ardaloedd penodol
eu dewis?
Dewiswyd Caernarfon a Blaenau Ffestiniog i ddechrau fel trefi a leolir mewn
ardal o amddifadedd.
Mae rhanbarth etholaethol Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog yn ardal Cymunedau yn Gyntaf a rhoddwyd cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r gr_p Corun i Sawdl, gr_p sy’n trafod anghyfartaleddau mewn iechyd ac yn ymdrin ag anghenion gwragedd a theuluoedd.
Mae gan Flaenau Ffestiniog a Chaernarfon, ynghyd â Phwllheli, boblogaethau mwy dwys na’r pentrefi gwledig o’u cwmpas, ac mae ganddynt i gyd ardaloedd preswyl mawr. Bydd datblygu rhwydwaith cerdded newydd yn creu diddordeb i’r boblogaeth leol, gweithwyr sy’n cymudo o bentrefi’r dalgylchoedd a thwristiaid fel ei gilydd.
Caernarfon yw canolfan weinyddol Cyngor Gwynedd gyda swyddfeydd lloeren y Cyngor ym Mhwllheli. Fel prif gyflogwr yn yr ardal, golyga hyn y gellir targedu nifer sylweddol o weithwyr gyda'r fenter hon.
Mae gan Dywyn, a leolir yn Ne Gwynedd, boblogaeth fawr o henoed ac mae’n ardal lle mae pobl ar incymau isel. Mae’r ardal yn addas i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau cerdded a fyddai unwaith eto yn annog trigolion lleol i wella eu hiechyd drwy gerdded yn rheolaidd yn eu cymdogaethau eu hunain.
Gr_p poblogaeth a dargedir?
Pob oed ond gyda phwyslais penodol ar y rhai hynny sy’n eisteddog
ac a fyddai’n elwa o gerdded yn rheolaidd.
Gwybodaeth gyswllt
I gael mwy o wybodaeth yngl_n â’r rhaglen Teithiau Trefol yng
Ngwynedd cysylltwch â:
Richard Glynne Jones
Swyddog Cludiant Gwyrdd a Datblygu Beicio
Cyngor Gwynedd
01286 679455
Richard.GlynneJones@gwynedd.gov.uk
Manteision iechyd cerdded
Gellir cael manteision iechyd sylweddol drwy wneud digon o weithgaredd corfforol.
Yr argymhelliad presennol ar gyfer oedolion yw o leiaf 30 munud o weithgaredd cymedrol ar bum diwrnod neu ragor yr wythnos. Yr hyn sy'n peri pryder yw mai dim ond 37% o ddynion a 25% o fenywod sydd ar hyn o bryd yn cyrraedd y lefelau a argymhellir. Mae cerdded bywiog yn weithgaredd perffaith i'ch helpu i gyrraedd y lefelau a argymhellir.
Manteision ymarfer corff rheolaidd
Gostwng pwysau gwaed uchel - Mae gweithgaredd cymedrol, megis cerdded bywiog,
yn ymddangos fel petai'r un mor effeithiol mewn gostwng pwysau gwaed â
gweithgaredd mwy egnïol.
Atal Diabetes – Mae ymarfer corff yn lleihau'n fawr y perygl o ddatblygu Diabetes Math 2.
Helpu i golli pwysau – Gall ymarfer corff, ar y
cyd gyda deiet iach, helpu i golli pwysau a chynnal y golled pwysau.
Manteision iechyd meddwl - Gall gweithgaredd corfforol helpu i leihau pryder
ac iselder. Mae hefyd yn helpu i wella hunan hyder.
Lleihau'r perygl o syrthio - Yn arbennig ymhlith yr henoed. Gall gweithgaredd corfforol wella cydbwysedd, cydsymud a hyblygrwydd y cymalau.
Rhwystro datblygiad Osteoarthritis ac Osteoporosis mewn grwpiau penodol.
Cynyddu cryfder yn eich calon, ysgyfaint ac esgyrn.
Gwella eich symudedd a'ch lles cyffredinol.
Rhoi mwy o egni a gwell noson o gwsg i chi.
Faint o gerdded ddylwn i ei
wneud?
Bydd cerdded ond yn cyfrannu at gynnal a gwella iechyd os yw'n ddigon dwys,
yn digwydd yn rheolaidd ac yn cael ei wneud am gyfnod digonol o amser. Fodd
bynnag, mae unrhyw gerdded yn well na dim. Gallai fod angen i bobl adeiladu
lefel eu gweithgaredd corfforol yn raddol, ac ar gyfer y bobl fwyaf segur
bydd mynd am dro hamddenol yn ddechrau da.
Amlder - Rhan fwyaf o ddyddiau'r wythnos (o leiaf 5).
Dwyster - Ar gyflymder sy'n gynt na hamddenol (gweler yr adran Sut fyddai’n teimlo?)
Amser – Yn ddelfrydol dylai fod yn un sesiwn barhaus o weithgaredd am 30 munud, ond bydd 3 sesiwn o 10 munud neu ddwy sesiwn o 15 munud yn gweithio cystal.
Sut fyddai'n teimlo?
Wrth fod yn gorfforol weithgar efallai y byddwch yn gweld rhai newidiadau'n
digwydd i’r corff, mae'r rhain yn gyffredin i bawb. Dyma restr i'ch
helpu i ddeall.
Gallech deimlo: Ychydig allan o wynt, mae hyn yn iawn cyn belled â'ch bod yn gallu cynnal sgwrs heb orfod ymladd am eich gwynt.
Gallech deimlo: ychydig yn boeth a llaith, oherwydd y cynnydd yn llif y gwaed o gwmpas y corff.
Gallech deimlo: ychydig o boen yn eich cyhyrau (croth y goes, morddwyd ac ati). Bydd hyn oherwydd bod y corff yn gwneud mwy o weithgaredd. Gwnewch yn si_r eich bod yn gweithio ar lefel gymedrol a pheidiwch â'i gorwneud hi.
Beth fydd ei angen arnaf?
Esgidiau da gyda chareiau i gynnal y droed. Nid oes yn rhaid i’ch
esgidiau fod yn rhai drud, dim ond yn rhai synhwyrol. Peidiwch â gwisgo
math digarrai o esgidiau neu rhai gyda sodlau uchel.
Ewch â d_r gyda chi. Gwnewch yn si_r nad fyddwch yn gadael i'ch hun fynd yn sychedig gan fod hyn yn dangos eich bod yn mynd yn ddadhydredig. Yfwch lymeidiau bach yn aml, yn arbennig os byddwch yn chwysu.
Ym Mhrydain heddiw mae 70% o'r boblogaeth yn segur, gyda 1 o bob 5 oedolyn nawr yn dod i'r categori gordew. Mae anweithgaredd corfforol nawr yn cael ei gydnabod fel pwysau mawr ar iechyd ac ar gymdeithas gan gostio £8.2 biliwn i’r economi bob blwyddyn yn Lloegr yn unig.
Cofiwch; mae pob cam yn bwysig – gwnewch y dewis 'llawn egni' bob tro!
Defnyddiwch y llwybrau hyn i'ch rhoi ar ben y ffordd i gerdded 10,000 cam y dydd. Byddwch iach, cadwch yn ddiogel a mwynhewch.