Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi £30,000 i dreialu a gwerthuso’r cynllun teithiau cerdded trefol mewn pedwar lleoliad yng Nghymru – Caerfyrddin, Wrecsam, Caerdydd a Gwynedd. Ym mhob ardal, bydd llyfrynnau yn cael eu cynhyrchu a fydd yn cynnwys teithiau cerdded ar gyfer yr ardal ac yn gyfrwng i ddod i wybod mwy am rai o drefi a dinasoedd hanesyddol Cymru.
Wrth ei lansio heddiw yng Nghaerfyrddin, dywedodd Tamsin Dunwoody-Kneafsey: “Dengys ymchwil bod y rhan fwyaf o’r teithiau a wneir mewn ceir yng Nghymru o dan bum milltir o bellter. Ar gyfer y pellteroedd hyn, gall cerdded a beicio fod yn opsiwn deniadol a dilys arall i bobl.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i annog pobl i gerdded a beicio mwy er mwyn helpu pobl i fod yn fwy iach yn ogystal â lleihau effeithiau andwyol siwrneiau car byr ar yr amgylchedd. Ceir yn y llyfrynnau hyn, a all ffitio’n hawdd i boced eich cot, nifer o lwybrau cerdded i annog pobl i gerdded yn rhan o’u bywydau bob dydd, i leihau nifer y siwrneiau car byr a gwella iechyd o ganlyniad i hynny.”
Mae’r cynllun llwybrau cerdded trefol yn enghraifft wych o’r ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i Her Iechyd Cymru – y ffocws cenedlaethol ar gymryd camau i wella iechyd yng Nghymru.”
Edrychwch ar wefan www.urbanwalks.co.uk/wales am fwy o wybodaeth am y cynllun.