Mae Urbanwalks wedi cwblhau Rhaglen Beilot 18 mis Urbanwalks Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru.
Mae'r rhaglen beilot hon wedi cynhyrchu 13 o lyfrynnau Urbanwalks dwyieithog yng Ngwynedd, Wrecsam, Sir Gaerfyrddin a Pharc Cathays, Caerdydd. Nod y rhaglen oedd hyrwyddo a chyflwyno menter gerdded fel dull trafnidiaeth cynaliadwy ym mhedair ardal y rhaglen beilot. Hefyd darparodd Urbanwalks hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ardaloedd y rhaglen beilot er mwyn iddynt gynhyrchu a chyflwyno'r 13 llyfryn.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn comisiynu gwerthusiad o'r rhaglen beilot ar ddiwedd y flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth yngl?n â'r erthygl hon cysylltwch ag Urbanwalks ar 0870 242 7507 neu e-bostiwch info@urbanwalks.co.uk