Mae Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cynhyrchu 4 llyfryn Urbanwalks yr un. Nod y llyfrynnau yw annog y rheini sy'n byw ac yn gweithio yn y pedair ardal i ddod yn fwy corfforol egniol drwy gerdded.
Gwynedd
Yng Ngwynedd mae llyfrynnau ar gael ar gyfer Caernarfon, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog a Thywyn. I gael copïau o'r llyfrynnau hyn cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01286 679455.
Sir Gaerfyrddin
Yn Sir Gaerfyrddin mae llyfrynnau ar gael ar gyfer Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Burry Port. I gael copïau o'r llyfrynnau hyn cysylltwch â Chyngor Sir Gaerfyrddin 01554 747533.
Wrecsam
Yn Wrecsam mae llyfrynnau ar gael ar gyfer Canol Tref Wrecsam, Ysbyty Maelor a'r Parc Technoleg ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. I gael copïau o'r llyfrynnau hyn cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 297068.