Am y Prosiect Peilot
Parc Cathays, Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Gwynedd
Wrecsam
Newyddion Diweddaraf
Cysylltiadau

Cynllun Peilot Teithiau Trefol Cymru 2004-2006
Mae Teithiau Trefol yn gweithio gyda Chyfarwyddiaeth Cludiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno rhaglen beilot genedlaethol sy’n bwriadu gwerthuso’r defnydd o daflenni cerdded Teithiau Trefol ar draws Cymru. Bwriedir i'r taflenni gynorthwyo unigolion i fod yn fwy egnïol yn rheolaidd yn eu hamgylcheddau lleol eu hunain ac i’w galluogi i gyrraedd y lefelau o weithgaredd corfforol a argymhellir ar hyn o bryd yn Dringo’n Uwch. Mae’r gweithredu hwn yn cefnogi ymrwymiadau a wnaed yn Strategaeth Cerdded a Seiclo 2003.

Dechreuodd y cynllun peilot ym mis Tachwedd 2004 a bydd yn parhau tan 31ain Mawrth 2006 pan fydd yn cael ei werthuso’n allanol ac y rhoddir ystyriaeth i gytundeb trwydded tair blynedd pellach. Nod y cynllun peilot yw penderfynu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim mewn perthynas â’r ymagwedd arbennig hon i annog poblogaethau i fod yn fwy egnïol yn eu hamgylchedd lleol. Bydd y darganfyddiadau yn sail ar gyfer cyflwyno’r cysyniad yn genedlaethol o bosib. Mae’r canlynol yn rhoi arwydd o’r camau gweithredu o fewn y cynllun peilot.

Ceir nifer o gamau allweddol o fewn y cynllun peilot gan gynnwys cynhyrchu amrywiaeth o daflenni Teithiau Trefol yn seiliedig ar yr angen lleol a ddynodwyd, cynllunio a chyflwyno rhaglen hyfforddiant sy’n caniatáu i ddefnyddwyr fapio a dylunio’r taflenni eu hunain, cynhyrchu gwefan ar gyfer y cynllun peilot, lansio’r cynllun, a gwerthuso’r broses.

Mae cynllun peilot Teithiau Trefol yn un o’r camau pwysig y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a llawer o gyrff lleol a chenedlaethol eraill ac unigolion yn eu cymryd ar hyn o bryd i gyflawni’r weledigaeth genedlaethol a gyflwynir yn Dringo’n Uwch:
“Cymru egnïol, iach, gynhwysol, lle mae chwaraeon, gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yn rhoi llwyfan cyffredin ar gyfer cymryd rhan, cael hwyl a llwyddo, sy’n clymu ynghyd gymunedau a’r genedl, a lle mae amgylchedd eithriadol Cymru yn cael ei ddefnyddio’n gynaliadwy i wella ein hyder ynom ein hunain a’n lle yn y byd.”

Amserlen
Tachwedd 2004 – Dyddiau Briffio Peilot Teithiau Trefol (1 yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ac 1 yn Ne a Chanolbarth Cymru)
Rhagfyr 2004 - cytuno ar fynegiadau o ddiddordeb a’r ardaloedd cyntaf gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ionawr / Chwefror 2005 – cyflwyno hyfforddiant Teithiau Trefol
Chwefror / Mawrth 2005 – 5 taflen wedi eu mapio (gan gynnwys Parc Cathays, Caerdydd)
Ebrill / Mai 2005 – gwefan yn mynd yn fyw a’r cynllun peilot yn cael ei lansio
Mehefin 2005 / Mawrth 2006 – 13 taflen arall yn cael eu dynodi a’u mapio (18 i gyd)
Ionawr / Mawrth 2006 – Diwedd / Adroddid Peilot / Adroddiad Gwerthuso