
Teithiau Trefol yn Wrecsam
– pam fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Groundwork wedi cymryd
rhan yn y cynllun?
Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu gr_p sydd â'i nod i gynyddu cyfleoedd
i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r
gr_p deinamig hwn yn cynnwys hybu iechyd, hamdden, Dawns Gogledd Ddwyrain
Cymru a Groundwork. Dangosodd arolwg diweddar o staff y Cyngor mai i’r
rhan fwyaf o bobl y gweithgaredd yr oeddynt yn ymgymryd ag ef amlaf oedd
cerdded. Mae rhaglen Teithiau Trefol yn ffordd syml i helpu pobl i gerdded
mwy a’u helpu i ddod yn fwy egnïol yn rheolaidd. Mae cael y teithiau
wedi eu cynllunio'n barod yn ei gwneud hi'n haws i fod yn egnïol a
chan y dylai’r llwybrau gymryd llai na 30 munud gellir eu cerdded
dros amser cinio.
Ardaloedd yn Wrecsam
Mae taflen y daith gyntaf yn targedu canol y dref ac wedi ei hanelu at bobl
sy’n gweithio yng nghanol y dref. Bydd teithiau yn y dyfodol yn targedu
ardaloedd eraill gan gynnwys parciau diwydiannol a’r ysbyty.
Gwybodaeth gyswllt
Am ragor o wybodaeth yngl_n â’r rhaglen Teithiau Trefol yn Wrecsam
cysylltwch â:
Michelle Stanley
Swyddog Hybu Iechyd
01978 297068