
Mae Teithiau Trefol yn gysyniad syml ond effeithiol wedi ei gynllunio i helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn rheolaidd yn eu hamgylcheddau lleol bob dydd.
Mae dyluniad y daflen Teithiau Trefol, sydd â phatent arno, yn defnyddio fformat y gellir ei ail-adrodd ac sydd wedi ei frandio’n unigryw sy’n hyrwyddo clwstwr o deithiau lleol. Mae’r fformat yn hyrwyddo ei ddefnydd ar draws amrediad eang o amgylcheddau trefol a gwledig, ac ar draws sectorau i ganiatáu ar gyfer amrywiaeth o ymyraethau cymunedol. Cydnabyddir bod segurdod corfforol bellach yn broblem sylweddol ac yn faich cynyddol ar gymdeithas yn gyffredinol.
Mae unigolion segur mewn dwywaith y perygl o ddioddef o glefyd y galon o’u cymharu ag unigolion egnïol. Mae cerdded yn cael ei dderbyn yn gynyddol fel y dull gorau o gael newid yn lefelau gweithgaredd corfforol y boblogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y neges – mae symud yn dda iddynt - ond yr hyn sydd wedi bod ar goll yw’r dull i'w galluogi i gyflawni’r lefelau isaf o weithgareddau a argymhellir ar hyn o bryd.
Cynlluniwyd y Teithiau Trefol i ymdrin â rhwystrau cyffredin i weithgaredd rheolaidd ac mae’n cynnig ymagwedd siop un stop unigryw ac wedi ei frandio at ddylunio, marchnata a chynhyrchu deunydd cefnogi ar gyfer hyrwyddo gweithgaredd.