Camu Ymlaen
Manteision Iechyd Gweithgaredd Corfforol Rheolaidd
Manteision Cymdeithasol Cerdded

 

•  Cerdded yw’r dull teithio mwyaf cynhwysol yn gymdeithasol; mae am ddim ac nid oes angen unrhyw offer arbennig i’w wneud.
•  Mae cerdded yn hybu rhyngweithio cymdeithasol, a all yn ei dro wella'r synnwyr o gymuned a helpu i leihau ynysu cymdeithasol.
•  Gall mwy o bobl yn cerdded helpu i adfywio ardaloedd trefol mewn sawl ffordd. Mae prosiectau adfywio trefol, megis y Fargen Newydd, yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i sicrhau bod ganddynt lais yn ailddatblygiad ffisegol a chymdeithasol amgylchedd eu cymuned leol.
•  Drwy hawlio'r strydoedd yn ôl gall pobl fod yn fwy ymwybodol o beth sydd ei angen arnynt i wneud eu hamgylchedd yn fwy diogel, yn fwy hygyrch, yn fwy deniadol a mwy cynhwysol a sicrhau bod unrhyw newid yn cael ei gynnal.
•  Gall mwy o bobl yn cerdded helpu i leihau troseddu ac ofn trosedd, mae gweithgareddau cefnogi ychwanegol megis wardeniaid stryd cymunedol gweladwy hefyd yn help.
•  Mae cerdded yn bwysig i weithgareddau’r gymuned leol ac i’r economi. Mae hybu cerdded i siopau lleol, ysgolion, mannau addoliad a chanolfannau iechyd yn sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd o fewn eu hamgylchedd bob dydd a gall hyn chwarae ei ran i leihau nifer y siwrneiau car.
•  Mae llawer o bartneriaethau a chyrff sy’n bodoli’n barod eisoes yn hybu cerdded a gweithgareddau eraill sydd wedi eu cynllunio i wella ardaloedd trefol a chyfalaf cymdeithasol. Mae hyn yn cynnig llwybr dilyniant i bobl pe dymunent gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau cymunedol.