
Her Iechyd Cymru - ewch amdani
Mae Her Iechyd Cymru yn galw ar bawb – pob person a sefydliad – i wneud gymaint ag y gallant i wella iechyd.
Mae’n her
- i chi fel unigolyn i wneud yr hyn y gallwch i wella eich iechyd eich hunan ac iechyd eich teulu
- i’r Llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, i helpu i greu’r amodau angenrheidiol i’ch helpu chi a’ch teulu i fyw bywyd iach
- i sefydliadau i wneud gymaint ag y gallant i helpu eu cyflogeion, eu cwsmeriaid a defnyddwyr eu gwasanaethau i wella eu hiechyd
Nid yw Cynulliad Cymru na’r GIG yn gallu creu gwell iechyd yng Nghymru ar eu pennau eu hunain. Mae’n waith i bob un ohonom.