Mae Adran Cludiant Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei chefnogaeth barhaus i fenter Urbanwalks ledled Cymru.
Yn dilyn rhaglen beilot 18 mis llwyddiannus, pan gynhyrchwyd 13 o lyfrynnau Urbanwalks dwyieithog yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin, Wrecsam a Pharc Cathays, Caerdydd, byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hoffi gweld menter Urbanwalks yn cael ei chyflwyno'n raddol i rannau eraill o Gymru.
Bydd cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid rhannol ar gyfer rhagor o sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio Urbanwalks i greu llwybrau cerdded ar gyfer eu cymuned leol, yn ogystal â chefnogaeth barhaus i'r ardaloedd sydd eisoes yn rhan o'r cynllun ac sydd am greu mwy o lyfrynnau.
Nod menter Urbanwalks yng Nghymru yw cael mwy o bobl i gerdded yn fwy aml yn eu hardal leol.
Am ragor o wybodaeth yngl?n â'r erthygl hon cysylltwch ag Urbanwalks ar 0870 242 7507 neu e-bostiwch info@urbanwalks.co.uk