
Yng Ngorffennaf 2002 cyhoeddwyd ein Dogfen Ymgynghori ynglyˆn â’r Strategaeth ddrafft a chawsom lawer o sylwadau manwl. Yn eu trafodaethau, roedd Is-grwˆp Cerdded a Seiclo Fforwm Trafnidiaeth Cymru yn rhannu consyrn dwys ynglyˆn â’r rhan hon o’r Strategaeth. Mae’r elfennau allweddol yn cynrychioli dull o weithredu sy’n cael ei gefnogi gan y rhan fwyaf o’r partïon sydd â diddordeb.
• Symudedd Cynhwysol – mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid yn dangos eu hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal trwy fabwysiadu cyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth ‘Inclusive Mobility’ fel enghreifftiau o arferion da;
• Dysgu Rhannu Gofod – cydnabyddiaeth eang o’r angen I weithredu mewn ffordd realistig ar sail ymchwil, arweiniad a hyfforddiant;
• Dyluniad Da – sy’n hanfodol er mwyn hybu’r defnydd o isadeiledd cerdded a seiclo;
• Gostwng Cyflymder – rhaglen ragweithiol yn deillio o’r Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Cymru ac yn golygu sefydlu Llwybrau Tawel a Pharthau Cartref;
• Cynnal Ansawdd – dod o hyd i’r ffyrdd gorau o gyllido a chynnal llwybrau cerdded a seiclo mewn ardaloedd trefol a gwledig;
• Clirio Rhwystrau – gwneud llwybrau cerdded a seiclo yn haws, yn symlach ac yn fwy diogel i’w defnyddio;
• Parcio beiciau – rhoi anogaeth i wneud darpariaeth ar gyfer ymwelwyr a staff mewn safleoedd mawr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat;
• Trafnidiaeth Gyhoeddus – gweithio gyda chwmnïau trafnidiaeth ar y mater o gludo beiciau ar drenau a bysiau; gan barhau gyda’r rhaglen o Lwybrau Diogel i Orsafoedd;
• Atal Troseddu – delio gyda chwestiynau o
ddiogelwch personol a lladrad beiciau. Gwneud llwybrau troed a llwybrau
seiclo yn fwy diogel ac yn fwy deniadol i’w
defnyddio;
• Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol a Llwybrau Cenedlaethol – gweithio mewn partneriaeth yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol er mwyn datblygu a hybu y Llwybrau a Rhwydweithiau hyn.
Y Pwyntiau Gweithredu yw:
• Cymryd dogfen yr Adran Drafnidiaeth ynglyˆn â Symudedd
i ystyriaeth a’i defnyddio fel model o arferion da;
• Nodi ymchwil gan yr Adran Drafnidiaeth i ddeall
ac osgoi gwrthdaro mewn gofod
sy’n cael ei rannu, rhoi canllawiau ychwanegol yng Nghymru lle bo
hynny’n briodol;
• Datblygu Cod Ymddygiad Defnyddwyr ar gyfer llwybrau sy’n cael eu rhannu, ar y cyd â chyrff cerdded, seiclo a marchogaeth;
• Cychwyn ar y gwaith o gasglu Canllawiau Dylunio Cymeradwy Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ardaloedd Gwledig a Threfol yng Nghymru;
• Sefydlu gwefan Cerdded a Seiclo fydd yn caniatáu mynediad ar-lein at ganllawiau dylunio, arfer orau a gwybodaeth arall fydd o help i ymarferwyr;
• Mabwysiadu egwyddorion yr Archwiliad Defnyddwyr Heb Fodur ar gyfer pob cynllun ffyrdd newydd yng Nghymru;
• Gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i ddatblygu prosiectau peilot Llwybrau Tawel ac i annog agor mwy o Lwybrau Tawel;
• Datblygu a dilyn rhaglen ar gyfer archwiliadau (awdit) o strydoedd yn y prif drefi a dinasoedd;
• Mynnu bod cyflogwyr cyhoeddus a phreifat mawr yn gwneud darpariaeth parcio beiciau ar gyfer staff ac ymwelwyr heb i hynny amharu ar olwg y lle;
• Trafod, gyda gweithredwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus, ffyrdd o wneud darpariaeth ar gyfer beiciau ar drenau, bysus a bysus siwrnai hir;
• Gwella darpariaeth ac ansawdd presennol y cyfleusterau parcio ar gyfer beiciau;
• Parhau gyda’r rhaglen dreigl bresennol o Lwybrau Diogel I Orsafoedd.